Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 6 Chwefror 2017
Amser: 14.00 -
16.22
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3910
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Neil Hamilton AC Mike Hedges AC Neil McEvoy AC Rhianon Passmore AC Lee Waters AC |
Tystion: |
Debra Carter, Llywodraeth Cymru Graham Hinchey, City of Cardiff Council Reg Kilpatrick, Llywodraeth Cymru Jon Rae, Welsh Local Government Association (WLGA) |
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Huw Vaughan Thomas - Archwilydd Cyffredinol Cymru Nick Selwyn - Swyddfa Archwilio Cymru Dave Thomas - Swyddfa Archwilio Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Meriel Singleton (Ail Glerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod (PDF 393KB) Gweld fel HTML (262KB)
1.1 Croesawodd y Cadeirydd Aelodau'r Pwyllgor ac estynnodd groeso i Jennette Arnold, Dirprwy Gadeirydd Cynulliad Llundain a Katie Smith, Pennaeth Craffu yng Nghynulliad Llundain.
1.2 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
1.3 Datganodd Neil McEvoy fuddiant fel Cynghorydd ar Gyngor Dinas Caerdydd a'i fod yn adnabod Graham Hinchey o Gyngor Dinas Caerdydd.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
2.2 Cytunodd y Pwyllgor i godi pryderon am fesurau gwrth-dwyll Llywodraeth Cymru gyda'r Ysgrifennydd Parhaol yn ddiweddarach yn y tymor.
3.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith Jon Rae, Cyfarwyddwr Adnoddau, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Graham Hinchey, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad, Cyngor Dinas Caerdydd ar ddull strategol cynghorau o greu incwm a chodi tâl.
3.2 Cytunodd Jon Rae i wirio ac anfon gwybodaeth bellach am unrhyw gynlluniau yng Nghymru sy'n cynhyrchu incwm ar gyfer awdurdodau lleol.
3.3 Cytunodd Graham Hinchey i anfon manylion ariannol y cynlluniau a gyflwynwyd gan Gyngor Dinas Caerdydd ers 2012 sy'n cynhyrchu incwm ar gyfer yr awdurdod lleol ynghyd ag enghreifftiau o gynlluniau arloesol y mae'r awdurdod lleol wedi'u cyflwyno sydd o fudd i awdurdodau lleol eraill drwy rannu arfer da.
4.1 Crafodd y Pwyllgor ar waith Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr, Llywodraeth Leol a Debra Carter, Dirprwy Gyfarwyddwr, Polisi Cyllid Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru ar ddull strategol cynghorau o greu incwm a chodi tâl.
4.2 Cytunodd Reg Kilpatrick i anfon manylion am enghreifftiau o arfer da yn Lloegr lle mae nifer o awdurdodau lleol wedi mabwysiadu dull newydd o greu cwmnïau masnachu i gynhyrchu incwm.
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6.1 Ystyriodd yr Aelodau y dystiolaeth a gafwyd a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau gyda sylwadau fel rhan o'u hystyriaeth o'r Papur Gwyn ar Lywodraeth Leol.
7.1 Ystyriodd Aelodau'r adroddiad drafft a gwneud nifer o awgrymiadau a fydd yn cael eu hymgorffori mewn fersiwn ddrafft arall. Trefnir bod y Pwyllgor yn ystyried hyn ymhellach.